Ysgol Iach
Mae Ysgol Talysarn wedi ymrwymo a Chynllun ysgolion iach Gwynedd ac wedi derbyn y Wobr Ansawdd ers. Mae’r cynllun yn galluogi’r ysgol i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles y disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.
Mae ysgol Iach yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r canlynol:
- Y Cwricwlwm Cenedlaethol/gweithgareddau’r Cyfnod Sylfaen
- Y Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
- Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisoes rhwng y cartref , y gymuned ac asiantaethau arbenigol eraill.
Mae Ysgol Talysarn yn ysgol sy’n hybu iechyd ac o ganlyniad mae gweithgareddau a bywyd yr ysgol yn adlewyrchu hun. Ni chaniateir fferins na chreision yn ystod amser egwyl, yn hytrach cefnogwn ffrwythau yn unig. Bydd disgyblion Bl.5 a 6 ac aelodau’r cyngor yn rhedeg siop ffrwythau’n ystod egwyl y bore.
Mae gan yr ysgol bolisi yn erbyn “Bwlio”. Mae’r ysgol yn cynnal cynllun “Cyfaill Clên”, sy’n golygu fod y disgyblion hyn yn gofalu am y plant sydd angen cyfaill/gemau ar y buarth.
Defnyddiwn “Amser Cylch” i hyrwyddo ymddygiad da a datblygu’r plant yn foesol a chymdeithasol.
Cyngor Ysgol – Pwyllgor o ddisgyblion sy’n cynrychioli aelodau o’u dosbarthiadau ar y cyngor. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r disgyblion rhoi eu syniadau ar nifer o faterion.
Amser Egwyl – Gwlyb a Sych Mae strwythur arbennig i amser chwarae gyda amrywiaeth o weithgareddau i hybu cyd chwarae a datblygiad cymdeithasol. Mae athrawes a tri cymhorthydd ar ddyletswydd amser egwyl. Amser cinio mae un uwch-oruchwylwraig cinio a un goruchwylwraig amser cinio yn cymryd gofal o’r disgyblion.
Mae’r ysgol wedi derbyn achrediad Gwobr Ansawdd Ysgolion Iach Gwynedd. Mae’r ysgol yn hybu yfed dwr, ac mae’r Cyngor Ysgol wedi prynu poteli bob plentyn.
Am fwy o wybodaeth Ysgol Iach Ysgol Gynradd Talysarn - cliciwch yma
Bwydlen 2016 - 2017 - cliciwch yma