Wal Wobrwyo

imageMae ymddygiad da yn sylfaen hanfodol ar gyfer creu amgylchedd dysgu ac addysgu creadigol ac effeithiol. Bydd pob aelod o deulu’r ysgol yn ffynnu, cael eu parchu a theimlo’n ddiogel.

- I gydnabod, hyrwyddo a chymell ymddygiad da defnyddir system wobrwyo. Bydd hyn yn atgyfnerthu ymddygiad dda ac yn cynorthwyo y disgyblion i weld fod ymddygiad da yn werthfawr. Byddwn yn gwobrwyo pawb yn yr ysgol drwy ganmoliaeth anffurfiol, ffurfiol, cyhoeddus ac un i un.

- Ceir ‘Seren yr Wythnos/Dydd’ ymhob dosbarth yn ddyddiol ac wythnosol. Rhoddir tystysgrif i bob un ac arddangos llun ohonynt ar wal llwyddiant yr ysgol am yr wythnos.

- Yn y Babanod defnyddir llawer o sticeri i ganmol ymddygiad da.

- Yn yr Adran Iau mae gan bob disgybl llyfr gwobrwyo. Ynddo meant yn casglu sticeri, mae’r athrawes yn cofnodi y rheswm mae’r disgybl yn cael y sticer. Ar ôl casglu 20 o sticeri byddent yn derbyn anrheg bach.

- Yn dymhorol rhoddir medalau aur, arian ac efydd i ddisgyblion yr Adran Iau am gasglu y mwyaf o sticeri.

- I roi cymhelliant i ymddygiad da yn y Neuadd fwyta, yn wythnosol mae ‘bwrdd aur’ ar gyfer yr wyth disgybl sydd wedi dangos sgiliau ymddygiad da mewn sawl ffordd.

- Bydd yr athrawon yn anfon ‘Negeseuon Neis’ personol i rieni a gofalwyr i son am lwyddiannau neu ymddygiad da.

- Yn achlysurol gwahoddir rhieni a gofalwyr ac aelodau o’r Corff Llywodraethol i wasanaeth gwobrwyo.