Gwaith Cartref

 

Gwaith Cartref....yn bwysicach na chynnydd academaidd, mae lles emosiynol, corfforol, meddyliol a chymdeithasol uwchlaw popeth. Felly, drwy leihau’r swmp o waith sy’n mynd adref, mae polisi gwaith cartref yr ysgol yn eich galluogi i barhau gyda’r pethau pwysig mae’r rhan fwyaf ohonoch yn ei wneud fel teuluoedd. Felly, ewch am dro i draeth Dinas Dinlle, Y Froyd neu Glynllifon; ewch i goncro mynydd Silyn, Dilyn neu Mynydd Grug; ewch i grwydro llwybrau lleol newydd yn eich cynefin; ewch i’r parc i redeg, cicio pêl a cholli’ch gwynt; casglwch gregyn, dail a choncyrs yn yr Hydref; ewch i’r ganolfan hamdden ar benwythnos a manteisiwch ar gyfnodau ‘nofio am ddim’; ewch ati i greu model allan o ddeunyddiau wedi’i ail-gylchu a’i pheintio’n lliwiau’r enfys; ewch am dro ar lwybr beics; ewch allan wedi iddi dywyllu i edrych ar ryfeddodau’r sêr; ewch am dro gyda chamera neu ipad i dynnu lluniau natur, adeiladu neu unrhyw beth difyr arall; tynnwch eich plentyn i’ch cesail a mwynhewch lyfr da gyda’ch gilydd; bwytewch gyda’ch gilydd o amgylch y bwrdd gan sgwrsio am bob dim dan haul….

Yn wythnosol, bydd yr ysgol yn dewis gwahanol destun i drafod adref yn ogystal ac yn yr ysgol. Rhywbeth i gychwyn sgwrs a bydd yr holl ysgol yn cymryd rhan er mwyn hybu sgwrsio adref ac yn yr ysgol. Mae siarad gyda’ch plentyn yn bwysig iawn er mwyn datlbygu yn academaidd ac yn gymdeithasol.

‘O ddweud stori gall blentyn greu stori’